Rhif y ddeiseb: P-06-1271

Teitl y ddeiseb: Caffael y tir gan Network Rail lle mae ATR884 yn rhedeg fel llwybr caniataol a threfnu cynnal a chadw

Geiriad y ddeiseb: Yr enw lleol ar y llwybr hwn yw Llwybr Cymunedol Cwm Garw ac nid yw wedi cael ei gynnal a’i gadw dros yr 8 mlynedd diwethaf. Mae’n gyswllt hanfodol o ddyffryn sydd ag un pen yn gaeedig ac mae sylwadau i’r Awdurdod Lleol a chyrff eraill yn dal heb eu datrys. Mae un ffordd dosbarthiad A allan o’r dyffryn a’r Llwybr Cymunedol yw’r unig ffordd arall o fynd i mewn ac allan.

 


1.        Cefndir

Mae llwybr ATR884 yn rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN). Fe’i hagorwyd yn wreiddiol i fod yn gyswllt teithio llesol rhwng Blaengarw yng Nghwm Garw a Bryngarw ger Brynmenyn.

Yn 2018, mewn datganiad i'r wasg, nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBS Pen-y-bont) mai Groundwork Bridgend oedd yn cynnal y llwybr hyd nes i’r sefydliad hwnnw fynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2014. Trosglwyddwyd y brydles i Gymdeithas Dreftadaeth Rheilffordd Cwm Garw. Yna, dechreuodd y gymdeithas chwilio am bartneriaid posibl i’w helpu i ofalu am y llwybr a'i gynnal a chadw.

Mae’r datganiad i’r wasg yn nodi bod sefydliadau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys CBS Pen-y-bont, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sustrans, Cadwch Gymru’n Daclus, Network Rail, Groundwork Cymru a Chymdeithas Treftadaeth Rheilffordd Cwm Garw, wedi cytuno bryd hynny i weithio gyda thrigolion Cwm Garw i wneud yn siŵr bod y llwybr yn aros ar agor ac yn addas i'w ddefnyddio.

Mae Ymchwil y Senedd wedi derbyn cadarnhad gan CBS Pen-y-bont ei fod wedi gweld llwybr 884 fel rhan o’i rwydwaith teithio llesol ers tro a’i fod, drwy gydol yr amser hwnnw, wedi gweithio’n gyson â Sustrans i reoleiddio buddsoddiad yn y llwybr a’i gynnal a’i gadw. Ar hyn o bryd, mae CBS Pen-y-bont mewn trafodaethau â Network Rail i gael y tir ar brydles hirdymor at ddibenion teithio llesol. Bydd prydles hirdymor yn rhoi sicrwydd deiliadaeth i CBS Pen-y-bont ac yn ei alluogi i’w uwchraddio a'i gynnal a chadw’n barhaus ar draul y cyhoedd.

Adran gyfreithiol CBS Pen-y-bont sy’n gofalu am y trafodaethau â Network Rail, ac mae’n rhoi cyngor ynghylch y rhwymedigaethau a'r cyfrifoldebau a fyddai ynghlwm wrth brydles hirdymor.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru yn amlygu’r ffaith bod y llwybr yn ymddangos fel llwybr teithio llesol ar fap rhwydwaith teithio llesol drafft Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBS Pen-y-bont). Mae’n nodi hefyd fod y datganiad cysylltiedig yn tynnu sylw at nifer o faterion yn ymwneud â’r llwybr. Gan ei bod yn ymddangos mai prif bryder y cychwynnwr yw cynnal a chadw'r llwybr, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi nodi bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael y dasg o drafod y trefniadau cynnal a chadw ac unrhyw gynlluniau ar gyfer gwelliannau â CBS Pen-y-bont.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.